Acorn yn cipio Gwobr y Prosiect Gofal Iechyd Gorau
Enillodd Acorn, y consortiwm y tu ôl i ddatblygiad Canolfan Ganser newydd Felindre, Wobr y Prosiect Gofal Iechyd Gorau yng ngwobrau'r Partneriaethau Cyhoeddus-Breifat (PPP) yng Ngwesty'r Royal Lancaster ym mis Mai.
Mae Gwobrau PPP yn digwydd bob blwyddyn ac maent yn llwyfan hanfodol i'r sector cyhoeddus a'r sector preifat gael eu cydnabod am y gwaith arloesol a thrawsnewidiol sy'n cael ei wneud. Canfu’r beirniaid fod y tîm wedi dangos y modd y mae Canolfan Ganser newydd Felindre yn cael ei hadeiladu’n gynaliadwy i ddarparu triniaethau arloesol yn y cyfleuster newydd, a hynny trwy ddefnyddio deunyddiau cynaliadwy, cynnwys y gymuned leol, yn ogystal ag addewid i amddiffyn yr amgylchedd.
Canolfan Ganser newydd Felindre fydd y buddsoddiad sylweddol cyntaf yng Nghymru sydd â'r nod o gefnogi targedau sero carbon y llywodraeth, a hon fydd canolfan iechyd gwbl drydanol gyntaf y DU.
Dywedodd Jorge Beceiro Castresana, Rheolwr Cyffredinol Canolfan Ganser newydd Felindre, am y seremoni wobrwyo a gynhaliwyd yn Llundain: “Roedd yn gymaint o anrhydedd gan ein bod wedi rhannu’r llwyfan â chynifer o bobl anhygoel, sydd oll wedi bod yn allweddol yn llwyddiant y prosiect hwn.
“Rydym wrth ein bodd ein bod wedi ennill gwobr mor fawreddog ac mae’n wych gweld ein gwaith yn cael ei gydnabod, yn enwedig ar ôl cyfnod mor fyr. Mae meithrin ein henw mewn dim ond blwyddyn a chystadlu yn erbyn enwebeion byd-eang eraill yn dyst enfawr i'r angerdd a'r ymrwymiad a ddangoswyd gan ein tîm. Mae'r gydnabyddiaeth o ennill y wobr hon yn sbarduno ein penderfyniad i barhau i gyflawni rhagoriaeth ym mhopeth a wnawn i Felindre.
Ychwanegodd Maria Ortega Carreras, Cyfarwyddwr y Prosiect: “Hoffai Sacyr UK ddiolch yn fawr iawn i’n holl staff a phob unigolyn sydd wedi bod yno i’n cefnogi ar hyd y ffordd. Rydym yn ymwybodol iawn o'r ymroddiad a'r gwaith caled y mae pob un wedi'u dangos, a heboch chi, ni fyddem wedi gallu cyflawni'r garreg filltir wych hon.”
Mae Canolfan Ganser newydd Felindre yn un o'r prosiectau mwyaf y mae Cymru wedi'i weld ers degawdau ac mae i fod i agor yng Ngwanwyn 2027.
Gallwch ddarllen rhagor am y gwobrau yma: https://www.partnershipsawards.com/finalists/new-velindre-cancer-centre-mim-project-1d1
