Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn ymweld â safle Canolfan Ganser Newydd Felindre
Rhoddwyd cyfle i dros 100 o fyfyrwyr o Brifysgol Caerdydd archwilio safle prosiect Canolfan Ganser Newydd Felindre.
Roedd mwyafrif y myfyrwyr yn astudio peirianneg sifil, a chawsant eu cyfarch gan y Cydlynydd Buddion Cymunedol, Joanne O’Keefe, a rannodd gyflwyniad ar y prosiect, gan ddangos dyluniad cryno y ganolfan, ynghyd â gwybodaeth am ei nodweddion gwyrdd.
Dilynwyd hyn gan daith gerdded i roi cyfle i’r myfyrwyr weld y broses adeiladu a meithrin dealltwriaeth ddyfnach o natur gymhleth datblygu seilwaith. Ar y daith, cafodd y myfyrwyr eu cyfarch gan Reolwr Prosiect Sacyr UK, Hugo Pou, a esboniodd ddatblygiad y prosiect.
Yn ddiweddarach, cafodd grwpiau anerchiad gan Elena Castro Blanco, sef Cyfarwyddwr Adeiladu Sacyr ar gyfer y consortiwm sy’n gyfrifol am ddatblygu Canolfan Ganser Newydd Felindre. Aeth ati i esbonio pwysigrwydd gwarchod a gwella’r ardal naturiol oddi amgylch, ac ymdrechion Sacyr i gynnal ei phrydferthwch naturiol.
O ddylunio i weithredu, mae Canolfan Ganser Newydd Felindre yn arwain y ffordd o ran gofal iechyd cynaliadwy. Hwn yw’r ysbyty cwbl drydanol cyntaf yn y DU, mae’n defnyddio ynni adnewyddadwy, ac mae wedi cael ei ddylunio i leihau'r effaith ar yr amgylchedd gymaint â phosibl wrth ddarparu’r gofal canser o safon fyd-eang y mae Felindre yn adnabyddus amdano.
Clywodd y myfyrwyr gan y Cynghorydd Iechyd a Diogelwch, Joshua Kincaid hefyd, a rannodd straeon am ei brofiad yn y maes a’r rheoliadau sy’n cadw’r byd adeiladu yn amgylchedd diogel i bawb sy’n rhan ohono.
Wrth sôn am yr ymweliad, dywedodd y Cydlynydd Buddion Cymunedol yn Sacyr UK, Jo O’Keefe: “Mae’n wych gweld cynifer o wynebau newydd, ffres, yn barod i fynd i’r afael â her y diwydiant adeiladu. Rydym yn hapus i allu eu helpu i ddelweddu eu dyfodol.”
