Yr Academi Cynhwysiant Anabledd yn recriwtio ei myfyriwr graddedig cyntaf
Ashley, Ella a Jack yw'r tri myfyriwr graddedig cyntaf i gwblhau'r Academi Cynhwysiant Anabledd, ac mae'r tri wedi cael eu cyf-weld ar gyfer swyddi cyntaf posibl ar safle Canolfan Ganser Newydd Felindre.
Mae'r Academi Cynhwysiant Anabledd yn ymdrech ar y cyd rhwng Sacyr UK a'r National Diversity Employment and Advisory Service Ltd (NDEAS). Mae'r fenter yn cefnogi pobl sydd wedi bod yn ddi-waith oherwydd anabledd, a hynny trwy ddarparu cyfleoedd iddynt gymryd y cam cyntaf tuag at yrfa yn y diwydiant adeiladu.
Mae'r rhaglen bythefnos o hyd yn gwahodd hyfforddeion i ddysgu hanfodion y diwydiant adeiladu. Ar ôl cwblhau'r rhaglen, roedd o leiaf un o'r hyfforddeion yn sicr o gael swydd gyda Sacyr UK yn rhan o dîm prosiect Canolfan Ganser Newydd Felindre – er i bob un gael cyfweliad ar gyfer swyddi.
Ashley oedd y myfyriwr graddedig cyntaf i gael cynnig rôl gyda Sacyr UK, a dyma oedd gan ei fam, Sarah, i'w ddweud: “Roedd Ashley'n cael trafferth yn yr ysgol, a chafodd ddiagnosis o awtistiaeth yn ddiweddar. Gadawodd heb fawr ddim cymwysterau a dim llawer o hyder. Clywodd fy chwaer am yr academi, a rhoddodd fi mewn cysylltiad â Hannah, sy'n aelod o'r tîm gwerth cymunedol yng Nghanolfan Ganser Newydd Felindre. Ar ôl llenwi holiadur syml, galwodd Dan o NDEAS, rhannu ei stori, a derbyn Ashley i'r rhaglen."
“Roedd yn nerfus iawn ar ei ddiwrnod cyntaf, ond dydy e ddim wedi edrych 'nôl. Erbyn yr ail ddiwrnod, roedd Ashley'n dod adref yn llawn cyffro am yr hyn yr oedd wedi'i ddysgu, gan siarad am Dan a'i ffrindiau newydd, ac erbyn diwrnod tri roedd yn dal y trên yn hyderus ar ei ben ei hun. Mae'n wych bod Ashley wedi cael cynnig swydd, a hynny yn ôl ei rinweddau ei hun. Maen nhw wedi gweld ei botensial, ac mae dim ond cael cynnig y rôl wedi rhoi hwb eithriadol i'w hyder.”
Bydd Ashley 'nawr yn dechrau ar ei rôl fel Cynorthwyydd Cymorth yr Academi yn cyflawni tasgau gweinyddol sy'n gysylltiedig â'r academïau hyfforddi unigol. Mae ei gyfrifoldebau'n cynnwys rheoli taenlenni a systemau mewnol, cydlynu gwybodaeth rhaglenni, a rhannu arfer gorau ledled yr academi.
