Asset Publisher

08/07/2026

Disgyblion Ysgol Gyfun Brynteg yn ymweld â Chanolfan Ganser newydd Felindre

Ymwelodd dysgwyr blwyddyn 9 o raglen Dyfodol Ysgol Gyfun Brynteg â safle datblygu Canolfan Ganser newydd Felindre yn yr Eglwys Newydd yn ddiweddar er mwyn cael mewnwelediad i’r diwydiant adeiladu a chynnydd y ganolfan ganser newydd. 

Yn ystod y sesiwn, bu’r dysgwyr yn archwilio gwahanol gamau adeiladu, dulliau adeiladu modern, a phwysigrwydd cynaliadwyedd yn y prosiect. Roedd y trafodaethau hefyd yn canolbwyntio ar yrfaoedd yn y diwydiant adeiladu a herio stereoteipiau yn y diwydiant. Roedd yn ddiddordeb clywed mai dim ond 19% o’r gweithlu adeiladu sy’n fenywod ar hyn o bryd, ac mai menywod yw 30% o’r tîm swyddfa ar brosiect Canolfan Ganser newydd Felindre. Roedd y sgyrsiau hyn yn annog dysgwyr i feddwl am gynhwysiant, gwaith tîm, a’r ystod eang o gyfleoedd sydd ar gael yn y diwydiant adeiladu. 

Dysgodd y grŵp hefyd am ddeunyddiau cynaliadwy sy’n cael eu defnyddio ar y safle, gan gynnwys pren, concrit cywarch (hempcrete), a cherrig ar gyfer caergewyll, ynghyd ag ymrwymiadau amgylcheddol y prosiect a chynlluniau i greu to byw yn y dyfodol. 

Daeth yr ymweliad i ben â thaith dywys o amgylch llwybr y safle, lle cafodd y dysgwyr gyfle i weld y cynnydd â’r gwaith adeiladu â’u llygaid eu hunain a chymryd rhan mewn gweithgareddau rhyngweithiol sy’n gysylltiedig â rolau adeiladu, deunyddiau, a diogelwch ar y safle. 

Roedd un canlyniad cadarnhaol iawn yn dilyn yr ymweliad yn ymwneud â myfyriwr o’r enw Rhys, a fynegodd ddiddordeb mawr mewn trwsio peiriannau sugno llwch ar ôl siarad ag aelodau o dîm y safle. Er mwyn cefnogi ei frwdfrydedd, trefnodd tîm y prosiect bod Josh, Rheolwr y Tîm Glanhau, yn rhoi peiriant sugno llwch a oedd wedi torri i Rhys i’w alluogi i ddatblygu ei sgiliau ymarferol a’i ddiddordeb mewn atgyweirio ymhellach.