Asset Publisher

15/04/2026

Gweithdy gosod brics Falcon Tree

Cynhaliodd Falcon Tree, sef is-gontractiwr sy'n gweithio ar Ganolfan Ganser Newydd Felindre, ei ddiwrnod blasu cyntaf ar gyfer gosod brics gyda myfyrwyr o Ysgol Bryn y Deryn ac Ysgol Greenhill, a hynny ar safle'r Ganolfan. 


Trefnwyd y digwyddiad gan Sacyr UK a Falcon Tree, a chafodd deg myfyriwr o Flynyddoedd 10 i 12 gyfle i ddysgu hanfodion gosod brics. 


Dysgodd y myfyrwyr beth y mae gosodwyr brics yn ei wneud ar safle adeiladu go iawn, sut y mae gosod brics yn ffitio yn y broses adeiladu, ac am y gwahanol fathau o frics, blociau a morter. Cawsant eu haddysgu am iechyd a diogelwch, sut i weithio'n ddiogel o amgylch offer a defnyddiau, pam y mae PPE yn bwysig, ac am dechnegau codi a chario diogel. 


Cafodd y myfyrwyr brofiad ymarferol o ddefnyddio tryweli, lefelau gwirod, byrddau morter, tapiau mesur, a phwyntwyr brics, gan ddysgu beth mae pob offeryn yn ei wneud a sut i'w drin yn gywir, a gwella eu hyder a'u sgiliau ymarferol. 


Yr uchafbwynt i'r myfyrwyr oedd dysgu sut i osod brics mewn llinell syth, creu uniadau cyson, ac adeiladu darn bach o wal. Buont yn ymarfer gweithio mewn parau neu grwpiau bach, gan gefnogi ei gilydd gyda mesuriadau ac alinio, a chyfathrebu'n glir i gwblhau'r dasg. 


Daeth y gweithdy i ben gyda sgwrs fer am brentisiaethau, rolau ar y safle, llwybrau cynnydd ym maes adeiladu, a'r hyn y mae cyflogwyr yn edrych amdano mewn pobl ifanc, gan roi gwell dealltwriaeth iddynt o ba un a fyddai'r byd adeiladu yn addas iddynt yn y dyfodol ai peidio.