Asset Publisher

02/06/2025

Hysbysiad Pwysig

Hoffem roi gwybod i chi y bydd ein tîm adeiladu yn gweithio oriau estynedig dydd Mercher 4 Mehefin.

Diben hyn yw fel y gall y tîm wneud y gwaith angenrheidiol i lyfnhau a chywasgu slab wedi i goncrit gael ei dywallt. Disgwyliwn na fydd y gwaith yn tarfu fawr ddim, a gwerthfawrogwn eich dealltwriaeth a'ch cydweithrediad yn ystod y cyfnod hwn. 

Yr oriau gwaith arferol yw 8am i 6pm. Mae'r estyniad yn un ar gyfer gweithio ar ôl 6pm, a bydd hyd y gwaith yn dibynnu ar y tywydd. Fodd bynnag, ychydig iawn o sŵn a ddisgwylir. 

Diolch i chi am eich amynedd. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni ar 0330 341 4863.