Hysbysiad Pwysig
Hoffem roi gwybod i breswylwyr y gymuned y bydd ein tîm adeiladu yn gweithio oriau estynedig rhwng 6pm ac 8pm o ddydd Llun i ddydd Iau yn ystod gweddill Mehefin.
Rhoddwyd caniatâd i weithio oriau estynedig ar gyfer rhestr o weithgareddau nad ydym yn disgwyl iddynt greu llawer o sŵn, ac a fydd yn canolbwyntio ar waith paratoadol yn bennaf.
Ymddiheurwn am unrhyw darfu y gallai hyn ei achosi, a gwerthfawrogwn eich dealltwriaeth a'ch cydweithrediad ar yr adeg hon.
Diolch i chi am eich amynedd. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni ar 0330 341 4863.
