Digwyddiad 'Cwrdd â'r Partner' Sacyr
Ddydd Mawrth 11 Chwefror, cynhaliodd Sacyr Ddigwyddiad 'Cwrdd â'r Partner' yn yr ystafell ddosbarth ar safle Canolfan Ganser newydd Felindre. Roedd y digwyddiad yn gyfle gwych i ddysgu rhagor am ein partneriaid yn y diwydiant, darparu gwybodaeth i'w helpu i ddeall y modd y gallant gyflawni eu targedau o ran gwerth cymdeithasol, creu gofod ar gyfer cymryd rhan mewn trafodaethau ystyrlon, a chynllunio ar gyfer cydweithredu yn y dyfodol.
Roedd gennym 25 o westeion yn bresennol, gan gynnwys contractwyr newydd, asiantaethau cymorth a phartneriaid cyflenwi. Trafodwyd pwysigrwydd gwerth cymdeithasol a budd cymunedol a’r effaith a’r dylanwad sylweddol fwy y gellir eu cael pan fyddwn yn gweithio gyda’n gilydd.
Dechreuodd y digwyddiad gyda chyflwyniad addysgiadol a theimladwy gan Kate Hammond o Ymddiriedolaeth GIG Felindre, a'n hatgoffodd ni i gyd o bwysigrwydd Canolfan Ganser newydd Felindre a'r effaith ddiamheuol y bydd ei gwasanaethau yn ei chael ar gleifion a'u teuluoedd.
Cawsom wrando ar gyflwyniadau defnyddiol iawn gan Goleg Caerdydd a’r Fro, Working Options, CITB, Llamau, The Busy Group, Sphere Solutions, 2B Enterprising, Blue Water Recruitment, Y Prentis a People Plus. Amlinellodd Hannah, Jo a Katie o Dîm Budd Cymunedol Sacyr hefyd y cymorth sydd ar gael gan y tîm o ran datblygu’r gweithlu ac ymgysylltu ag ysgolion/STEM, a thynnwyd sylw at Lwyfan Cymunedol newydd Acorn/Sacyr fel adnodd hanfodol ar gyfer cyfathrebu, cael diweddariadau perthnasol, a chyflwyno sylwadau.
Roedd yr adborth gan y rhai a oedd yn bresennol yn hynod gadarnhaol ac mae sgyrsiau am y modd y gallwn ffurfio partneriaethau effeithiol wedi parhau y tu allan i’r ystafell ddosbarth, sef un o’n nodau!
