Hysbysiad i breswylwyr
Rydym am roi gwybod i chi y bydd ein tîm adeiladu yn gweithio oriau estynedig dros nos oherwydd y rhagolygon o dymereddau uchel i ddod.
Bydd y tîm yn gweithio oriau estynedig ar ddau ddyddiad penodol i dywallt dau lwyth mawr o goncrit. Bydd hyn yn cael ei wneud i osgoi problemau posibl megis cracio mewn ardal allweddol o safle Canolfan Ganser Newydd Felindre.
Bydd y tîm adeiladu yn sicrhau bod unrhyw sŵn a tharfu yn cael eu cadw mor isel â phosibl yn ystod y gwaith dros nos.
Mae'r dyddiadau dan sylw, gyda'r posibilrwydd o fân addasiadau oherwydd amgylchiadau annisgwyl, fel a ganlyn:
- Dydd Llun, 16 Mehefin (6pm-8am)
- Dydd Llun, 23 Mehefin (6pm-8am)
Cadwch mewn cof mai amseroedd bras yw'r rhain, a gallant amrywio yn dibynnu ar y tymheredd amgylchol a thymheredd y concrit.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â:
Yn ystod oriau gwaith (8am-5pm): Katie Hathaway, khathaway@sacyr.com – 07763 203360
Ar ôl oriau gwaith: ffôn symudol y safle – 033 03414863
Ymddiheurwn am unrhyw darfu y gallai hyn ei achosi, a gwerthfawrogwn eich dealltwriaeth a'ch cydweithrediad ar yr adeg hon.
Diolch i chi am eich amynedd.
