Tîm Canolfan Ganser Newydd Felindre yn rhoi hwb i’w ymwybyddiaeth o ganser y prostad
Ymwelodd Dai Johns o Prostate Cymru â safle prosiect Canolfan Ganser Newydd Felindre i gynnal cyfres o sgyrsiau am sut i adnabod ac atal canser y prostad.
Cafodd Dai, sydd ’nawr yn 70, ddiagnosis o ganser y prostad pan oedd yn 56 oed, a hynny yn ystod treial clinigol y cymerodd ran ynddo am fod yna hanes o’r clefyd yn ei deulu. Roedd yn meddwl y byddai’n broses sgrinio syml; fodd bynnag, pan gafodd alwad ffôn gan feddyg yn dweud wrtho fod ganddo lefel uchel o antigen prostad-benodol (canlyniad prawf gwaed PSA), dywedwyd wrtho am fynd yn ôl i weld meddyg cyn gynted â phosibl.
Bythefnos yn ddiweddarach, gyda help cyfarpar llawfeddygol robotig, cafodd lawdriniaeth i dynnu’r canser, ac mae wedi bod yn gwbl rydd o’r clefyd am y 15 mlynedd ddiwethaf.
Mae Dai ’nawr yn teithio o amgylch Cymru ar ran yr elusen Prostate Cymru i gynnal sgyrsiau angerddol ac addysgol am ganser y prostad a’r arwyddion rhybudd cynnar i gadw golwg amdanynt.
Yng Nghymru yn unig, mae dros 2,500 o ddynion yn cael diagnosis o’r clefyd bob blwyddyn, gyda thua 1 o bob 8 dyn yn cael diagnosis yn ystod ei fywyd. Mae hyn yn cynyddu i 1 o bob 3 yn achos y rheiny sydd â hanes ohono yn y teulu. Hwn yw’r math mwyaf cyffredin o ganser ymhlith dynion, gyda dros 12,000 yn marw o’r clefyd bob blwyddyn.
“Mae mwyafrif y dynion nad ydynt yn marw o’r clefyd, yn marw gyda’r clefyd” meddai Dai pan ofynnwyd iddo am ragamcaniad o’r gyfradd ymhlith dynion 50 oed a hŷn sydd â chanser y prostad.
Dywedodd Dai ei fod wedi mwynhau sgwrsio â thîm Sacyr UK yn fawr: “Ar ôl darparu bron 500 o sesiynau, gallaf ddweud yn gwbl hyderus mai’r rhai hyn ar safle Canolfan Ganser Newydd Felindre oedd dwy o’r sesiynau gorau i mi eu cynnal.”
Gwahoddwyd dynion o bob rhan o’r safle i roi’r gorau i weithio, mwynhau ychydig o luniaeth, a ddarparwyd yn garedig gan Sphere Solutions, a gwrando ar Dai yn sôn am yr arwyddion i gadw golwg amdanynt.
I gael rhagor o wybodaeth am ganser y prostad, mae Prostate Cymru yn cynnig asesiadau iechyd rhad ac am ddim yma: https://www.prostatecymru.com/prostate-health-assessment/.
Os ydych yn gofidio am iechyd eich prostad, cysylltwch â’ch meddyg teulu neu ffoniwch linell gymorth rad ac am ddim Prostate Cancer UK ar 0800 7747560.
