Disgyblion yn archwilio gyrfaoedd STEM yn Techniquest
Cymerodd Sacyr UK ran ym menter Byd Gwaith Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) Techniquest – digwyddiad dau ddiwrnod a gynlluniwyd i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf.
Roedd dros 500 o ddisgyblion rhwng saith ac 11 oed yn bresennol, a hynny o 15 o ysgolion cynradd ledled De-ddwyrain Cymru, pob un yn awyddus i archwilio'r amrywiaeth eang o yrfaoedd STEM sydd ar gael.
Trwy gydol y digwyddiad, bu'r disgyblion yn ymgysylltu â chyflogwyr o bob cwr o'r rhanbarth, gan ofyn cwestiynau, darganfod syniadau newydd, a chymryd rhan mewn gweithgareddau STEM ymarferol. Y nod oedd tanio chwilfrydedd a helpu dysgwyr ifanc i'w gweld eu hunain mewn rolau STEM yn y dyfodol.
Ariannwyd presenoldeb pob ysgol yn llawn gan Ymddiriedolaeth Edina; mae cymorth yr ymddiriedolaeth yn sicrhau bod disgyblion mewn ardaloedd difreintiedig yn cael mynediad at brofiadau addysgol tebyg i hwn. Chwaraeodd ei chyfraniad ran allweddol trwy sicrhau bod y digwyddiad yn hygyrch ac yn hwyl.
Roedd Sacyr UK yn falch o fod yn rhan o fenter mor ysbrydoledig, a oedd yn helpu i greu cyfleoedd i ddisgyblion ac annog diddordeb gydol oes mewn STEM.
