Tîm Amgylchedd Sacyr yn briffio staff ar EPSL
Rhoddodd Tîm Amgylchedd Sacyr UK & Ireland sesiwn friffio ar y Drwydded Rhywogaeth a Warchodir gan Ewrop (EPSL) ar gyfer safle adeiladu Canolfan Ganser newydd Felindre. Cafodd y sesiwn adborth cadarnhaol, ac roedd 57 o bersonél Sacyr yn bresennol, ynghyd ag aelodau o Project Co.
Cyflwynwyd y sesiwn friffio gan aelodau'r Tîm Amgylchedd, Huw Lewis ac Oliver Hurrell, i sicrhau bod aelodau newydd y tîm yn cael gwybod am yr amodau trwydded cymhleth sy'n diogelu cynefin y Pathew o fewn ac o amgylch y safle, a hynny'n gynefinoedd a gedwir ac a grëir.
Ymhlith y pwyntiau allweddol a bwysleisiwyd roedd pwysigrwydd nodi ardaloedd gwarchodedig a thrwyddededig ar draws y safle. Atgoffwyd y cyfranogwyr bod rhaid cynnal unrhyw weithgareddau a allai effeithio ar yr ardaloedd hyn yn unol â'r cydsyniadau angenrheidiol ac o dan oruchwyliaeth Clerc Gwaith Ecolegol (ECoW).
Mae bywyd gwyllt a fflora naturiol o amgylch Canolfan Ganser Newydd Felindre o'r pwys mwyaf i holl aelodau tîm Sacyr, a'n nod yw cael yr effaith leiaf posibl ar y bywyd sy'n bodoli eisoes o'n cwmpas, a gweithio mewn cytgord â natur.
