Asset Publisher

10/12/2025

Sacyr UK yn cynnal Bore Coffi Macmillan

Gwisgodd aelodau tîm prosiect Canolfan Ganser Newydd Felindre eu menig popty a’u ffedogau y mis Hydref hwn i gymryd rhan yn eu Bore Coffi Macmillan eu hunain.

 

Cynhelir bore coffi blynyddol Macmillan UK bob blwyddyn, gyda’r elusen ganser yn gwahodd sefydliadau, grwpiau cymunedol a phobl i rannu paned o goffi a chacen, codi arian, a thrafod y modd y mae canser wedi effeithio arnyn nhw a’u hanwyliaid.

 

Mae canser yn achos sy’n agos iawn at galonnau nifer o bobl ac yn rhywbeth sydd hefyd wedi effeithio ar rai o aelodau’r tîm yn Sacyr UK. Cafwyd cyfraniad hael o amrywiaeth o gacennau gan staff y swyddfa, o deisennau brith i fara banana. Roedd yna amrywiaeth eang i ddewis o’u phlith, gyda’r mwyaf poblogaidd yn dod o bopty Cydlynydd Datblygu’r Gweithlu, Hannah Jenkins, a fu’n gweini ei phicau ar y maen cartref.

 

Daeth aelodau’r staff ynghyd i roi arian, cael paned o goffi, sgwrsio, a chael cyfle i fod yn agored ynghylch y modd y mae canser wedi effeithio ar eu bywydau.

 

Yn y pen draw, bu i’r gwerthiant cacennau ragori ar y targed, gan godi cyfanswm terfynol o dros £400, a oedd yn well o lawer na’r swm disgwyliedig o £250.