Asset Publisher

13/07/2026

Sacyr UK yn cefnogi myfyrwyr Blwyddyn 10 trwy ffug gyfweliadau

Mae Joanne O’Keefe, Cydlynydd Budd Cymunedol Sacyr UK, a Harrison Fairclough, y Cynorthwyydd Budd Cymunedol, wedi ffurfio partneriaeth gyda Gyrfa Cymru er mwyn gweithredu eu rhaglen ffug gyfweliadau.  Mae’r rhaglen hon yn darparu cyfweliadau ymarfer i fyfyrwyr, ynghyd ag adborth wedi’i bersonoli, i’w helpu i baratoi ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol a chyfleoedd ar gyfer prentisiaeth.

Fel rhan o’r fenter hon, ymwelodd staff o Sacyr UK a Gyrfa Cymru ag Ysgol Nant-gwyn i gynorthwyo myfyrwyr Blwyddyn 10 i ddatblygu eu sgiliau cyfweliadau proffesiynol ac archwilio llwybrau gyrfa posibl. Rhannwyd y myfyrwyr yn grwpiau yn ôl y gyrfaoedd roedd ganddynt ddiddordeb ynddynt, gan ganolbwyntio’n benodol ar y rhai a oedd yn awyddus i gael gyrfa ym maes peirianneg.

Yn ystod y sesiynau ffug gyfweliadau, aseswyd y myfyrwyr ar sail nifer o wahanol gymwyseddau proffesiynol, gan gynnwys cyfathrebu, cyflwyniad, hyder, cwblhau CV a thaflenni gwybodaeth. Yn ychwanegol at hyn, aseswyd eu gallu i fynegi eu sgiliau, eu huchelgeisiau a’u dyheadau gyrfaol hirdymor. Roedd y cyfweliadau’n archwilio graddau disgwyliedig y myfyrwyr, eu huchelgeisiau hirdymor, a’r llwybrau roedd arnynt eu hangen er mwyn mynd ymlaen i’w meysydd peirianneg.

Roedd y safon gyffredinol a ddangoswyd gan y myfyrwyr yn drawiadol iawn, ac roedd llawer yn arddangos hunanymwybyddiaeth gref, proffesiynoldeb, a dealltwriaeth glir o’u huchelgeisiau ar gyfer y dyfodol. Roedd nifer o ymgeiswyr yn amlygu eu hunain oherwydd eu brwdfrydedd, eu hyder a’u gwybodaeth fanwl am y sectorau peirianneg roeddent yn gobeithio ymuno â hwy, ynghyd â chyflawniadau academaidd disgwyliedig yn gyson â’u nodau gyrfaol. 

O ganlyniad, mae cyfleoedd yn cael eu harchwilio ar hyn o bryd i alluogi nifer dethol o fyfyrwyr i gael cysylltiad pellach â’r diwydiant trwy ymweliadau safle posibl neu gyfleoedd i wirfoddoli ar safle Canolfan Ganser newydd Felindre, gan helpu i wella eu profiad ymarferol a chefnogi eu datblygiad proffesiynol parhaus.