Asset Publisher

06/06/2025

Ymweliadau Addysg

Roedd mis Ebrill yn fis prysur i Sacyr UK, y contractwr y tu ôl i Ganolfan Ganser newydd Felindre, wrth i staff ymgysylltu ag ysgolion ledled Caerdydd a Chasnewydd, gan gynnig cyfarwyddyd ar yrfa, cymorth, a gweithdai i fyfyrwyr o bob oed.

Ar ddechrau'r mis, aeth Sacyr UK i Academi Ieuenctid Casnewydd i ddechrau cyfres o gyflwyniadau i fyfyrwyr sydd mewn perygl uchel o fod yn NEET (heb fod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant). Mae'r Academi yn darparu cymorth ac arweiniad wedi'u teilwra i helpu unigolion i gyflawni canlyniadau cadarnhaol – boed hynny'n cofrestru ar gwrs coleg, cwblhau hyfforddiant wedi'i dargedu, neu'n sicrhau cyflogaeth. Cynhaliodd Joanne, Cydlynydd Buddion Cymunedol Sacyr UK, weithdy i 15 o fyfyrwyr a oedd yn canolbwyntio ar baratoi ar gyfer cyfweliadau, gan gynnig awgrymiadau ymarferol ac amlinellu pethau allweddol i'w gwneud a pheidio â'u gwneud. Yn y misoedd nesaf, bydd Sacyr UK yn dychwelyd i'r Academi i roi cyflwyniad dilynol ac i ddarparu sesiwn ar sgiliau rhwydweithio.

Cymerodd Joanne ran hefyd mewn ffeiriau gyrfaoedd yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro ac Ysgol Uwchradd Cantonian, gan siarad â myfyrwyr ar gyrsiau llwybr Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig, yn ogystal â chynnig cyngor ar rolau adeiladu cyffredinol a llwybrau prentisiaeth i'r diwydiant. Rhoddodd y digwyddiadau gyfle gwerthfawr i fyfyrwyr ofyn cwestiynau a dysgu rhagor am y cyfleoedd penodol sydd ar gael trwy brosiect Canolfan Ganser newydd Felindre.

Ymwelwyd hefyd ag Ysgol Uwchradd Fitzalan yn ystod digwyddiad a drefnwyd gan Working Options, sefydliad sy'n darparu cyfleoedd gyrfa ac arweiniad addysgol i bobl ifanc 14-19 oed ledled Cymru a Lloegr. Cymerodd dros 130 o ddisgyblion TGAU o'r ysgol ran mewn tair sesiwn wahanol i ddysgu rhagor am bwysigrwydd gwaith tîm a datrys problemau yn ogystal â heriau hwyliog a oedd yn cynnwys adeiladu tetrahedronau allan o rodenni hoelbren a bandiau elastig.

Yn olaf, yn ystod mis prysur iawn, aeth aelodau o dîm Sacyr UK hefyd i helpu gyda chystadleuaeth 'Lego League' gyffrous yn Ysgol Gynradd Groeswen yn Sain Ffagan, lle bu disgyblion blwyddyn 6 yn gweithio gyda'i gilydd mewn timau i gymryd rhan mewn tasg STEM heriol yn seiliedig ar Lego a oedd yn cynnwys rhaglennu robotiaid, codio, adeiladu a llawer iawn o Lego! Roedd aelodau o dîm y Prosiect yno i helpu a chefnogi’r disgyblion yn ystod eu profion a chawsant y dasg anodd o ddewis enillydd! Gwnaeth y disgyblion argraff fawr ar bawb a rhoi cyflwyniadau gwych yn amlinellu dyluniadau eu robotiaid, gan drafod y modd y buont yn cydweithio i'w hadeiladu a sôn am unrhyw broblemau yr oeddent wedi'u goresgyn ar hyd y ffordd.

Dywedodd Maria Ortega Carreras, Cyfarwyddwr Prosiect yng Nghanolfan Ganser newydd Felindre: “Mae’n wych cael cynifer o ddisgyblion a myfyrwyr yn rhan o’r digwyddiadau hyn wrth iddynt gymryd y camau cyntaf yn eu gyrfa ar ôl addysg. Mae'n bwysig iddynt weld y cyfleoedd sydd ar gael iddynt yn ogystal â'r cyfleoedd y gall prosiect Canolfan Ganser newydd Felindre eu darparu iddynt.”

“Mae hwn yn gyfnod cyffrous i’r genhedlaeth nesaf o oedolion ifanc yn yr ardal, ac rydym yma i’w cefnogi a’u tywys gyda’u camau nesaf, boed hynny’n yrfa benodol y gall Canolfan Ganser newydd Felindre ei darparu ar eu cyfer neu’r rhai sy’n manteisio ar gyfleoedd eraill yn y sector adeiladu.”