Asset Publisher

19/08/2025

Lansio ymgyrch Atal Hunanladdiad yn ystafell ddosbarth Canolfan Ganser Newydd Felindre

Ffurfiodd Sacyr bartneriaeth â CITB (Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu) i lansio ei ymgyrch Cymryd y Cam Cyntaf mewn cyfarfod a gynhaliwyd ar safle Canolfan Ganser Newydd Felindre. 


Arweiniwyd y cyflwyniad meithrin ymwybyddiaeth gan reolwr Ymgysylltu â'r Cyhoedd CITB, Mark Whitby, a dilynwyd hyn gan y brif araith gan yr AS lleol ar gyfer Gogledd Caerdydd, Julie Morgan, gydag aelodau o dîm polisi Hunanladdiad a Hunan-niweidio Llywodraeth Cymru yn ymuno â'r drafodaeth. Ar y llwyfan hefyd yr oedd Liz Thomas-Evans o'r gwasanaeth iechyd meddwl NALS (Gwasanaeth Cynghori a Chyswllt Cenedlaethol Cymru), sy'n cynnig gwasanaethau llinell gymorth rhad ac am ddim i'r rheiny y mae hunanladdiad wedi effeithio arnynt. 


Aeth y Rheolwr Ymgysylltu â Rhanddeiliaid a Budd i'r Gymuned, Katie Hathaway, ati i rannu fideo a oedd yn taflu goleuni ar y modd y mae iechyd meddwl negyddol yn effeithio ar aelodau'r diwydiant adeiladu yn eu bywyd bob dydd. 


Mae'r fenter newydd, sy'n annog y rheiny sy'n gweithio ym maes adeiladu i siarad yn agored am eu hiechyd meddwl, yn ymateb i'r gyfradd frawychus y mae hunanladdiad yn hawlio bywydau unigolion sy'n gweithio ar y safle. 


Yn 2020, nododd y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod gweithwyr adeiladu, ar gyfartaledd, 3.7 gwaith yn fwy tebygol o gyflawni hunanladdiad, sy'n golygu eu bod ymhlith yr aelodau o gymdeithas sy'n wynebu'r risg fwyaf yn yr ardal hon (Ffynhonnell: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol).


O oriau hir, i gostau cyflenwi cynyddol, a llafur sy'n heriol yn gorfforol ac yn feddyliol, mae'r pwysau ar y rheiny sy'n gweithio ar y safle yn gyson. Am y rhesymau hyn yn unig, mae'n eithriadol o bwysig gallu darparu adnoddau cymorth hanfodol. 


Dywedodd Julie Morgan, AS, “Mae'n dda gweld datblygiad prosiect mor bwysig, a gweld yr ymdrechion sy'n cael eu gwneud i gefnogi'r rheiny sy'n brwydro â'u hiechyd meddwl".