Asset Publisher

05/06/2025

Teulu Ysgolion y Deryn

Cyflwynodd Sacyr UK, y contractwr sy'n adeiladu Canolfan Ganser newydd Felindre, ei Blatfform Cymunedol newydd i aelodau staff o deulu ysgolion y Deryn er mwyn dangos iddynt y modd y gallai helpu eu myfyrwyr.

Mae mwy na 50 o athrawon a staff o deulu ysgolion y Deryn, sydd wedi'u lleoli yn Lecwydd, Mynachdy ac Ysbyty Athrofaol Cymru, Y Mynydd Bychan, yn darparu ar gyfer myfyrwyr o bob oed o'r Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 12. Ar 6 Mawrth dangoswyd cyflwyniad i'r staff yn Nyth y Deryn, Mynachdy, yn arddangos ymrwymiad Sacyr UK i ymgysylltu â'r gymuned, addysg a chydweithio.

Darparodd aelodau staff Sacyr UK gymorth yn ogystal â gwybodaeth am y modd mae'r platfform yn gweithio, yr hyn sydd ar gael, a'r modd y gellir ei ddefnyddio fel offeryn cyfoethogi addysgol i'r myfyrwyr, lle gellir dewis tiwtorialau ac adrannau o'r platfform i weddu i anghenion pob myfyriwr. Mae Isabel, sy'n gweithio yng Nghoed y Deryn yn Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru, yn un o'r athrawon cyntaf i dreialu'r platfform i gefnogi cleifion ifanc ar eu taith ddysgu i ffwrdd o leoliad addysg traddodiadol.

Crëwyd y platfform i gynnig gwasanaethau, trefniadau cydweithio ac offer i helpu'r gymuned leol sydd wedi'i lleoli o amgylch Canolfan Ganser newydd Felindre, yn ogystal â rhanbarth ehangach de Cymru. Mae ar gael i unrhyw un 14 oed a hŷn i ddarparu man lle gall pobl wneud popeth o adeiladu eu CV a chael mynediad at fyrddau swyddi, i gynnig tiwtorialau ar draws ystod o bynciau gan gynnwys gwyddoniaeth, peirianneg, mathemateg a thechnoleg.

Dywedodd Katie Hathaway, Rheolwr Ymgysylltu â Rhanddeiliaid a Budd Cymunedol Sacyr UK yng Nghanolfan Ganser newydd Felindre: “Mae bob amser yn wych rhannu’r hyn y gall ein platfform newydd ei gyflawni a dangos y modd y mae’n darparu cynifer o gyfleoedd a manteision i’r gymuned leol. Mae'r adnoddau sydd ar gael ar ein platfform yn hawdd eu cyrchu ac roedd yn wych gweld pa mor awyddus yr oedd yr athrawon a'r staff yn y Deryn i ddysgu rhagor am y modd y gellir eu defnyddio yn eu hysgol. Diolch yn arbennig i Isabel sydd wedi bod yn llunio'r modiwlau i gefnogi cleifion, ac mae'n hyfryd clywed bod rhieni'n cymryd rhan hefyd!

“Wrth symud ymlaen, un o brif amcanion Sacyr yw y bydd gan bob ysgol yn y rhanbarth fynediad at ein platfform a all ddarparu adnoddau addysgol sylweddol i ddisgyblion.”

Ychwanegodd Katie: “Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weld faint o straeon llwyddiant fydd yn cael eu creu gan y platfform newydd, a fydd yn caniatáu i ddisgyblion ddatblygu eu sgiliau ac ehangu eu rhwydwaith, yn ogystal â chynnig mynediad iddynt at gyfleoedd newydd o ran gyrfa a gwirfoddoli.”

Ychwanegodd Rachel Mann, Dirprwy Bennaeth Teulu Ysgolion y Deryn, "Mae gweithio gyda Katie a thîm Sacyr bob amser yn brofiad gwerth chweil. Mae'r cyfle i greu cyfleoedd ystyrlon i'n dysgwyr yn hynod gyffrous. Edrychwn ymlaen at archwilio hyd yn oed mwy o gyfleoedd i'n carfan leol a gweld y datblygiadau dros ein hunain. Mae'n ysbrydoledig gweld dysgwyr yn ymgysylltu â dysgu cyd-destunol, yn y byd go iawn trwy'r platfform newydd. Rydym yn llawn cyffro i barhau i gydweithio â'n partneriaid lleol, Sacyr, ar y daith hon."