Asset Publisher

07/09/2026

Ymweliad Safle Bryn y Deryn a gweithdy gosod brics

Ymwelodd myfyrwyr o Ysgol Bryn y Deryn â’r safle yn ddiweddar i gymryd rhan mewn gweithdy gosod brics yn cael ei gyflwyno gan ein contractwyr Falcon 3, â’r bwriad o ysbrydoli diddordeb mewn adeiladu a helpu dysgwyr i ddechrau datblygu sgiliau ymarferol yn y diwydiant. 

Dechreuodd yr ymweliad â chyflwyniad a sgwrs am brosiect Canolfan Ganser newydd Felindre, lle bu’r dysgwyr yn archwilio camau amrywiol yn y broses adeiladu, dulliau adeiladu modern, a phwysigrwydd cynaliadwyedd yn y prosiect. Roedd y trafodaethau hefyd yn canolbwyntio ar y gyrfaoedd amrywiol sydd ar gael yn y diwydiant adeiladu ac yn herio stereoteipiau cyffredin sy’n gysylltiedig â’r diwydiant. 

Yn dilyn hyn cafwyd cyflwyniad ar iechyd a diogelwch, yn tynnu sylw at bwysigrwydd arferion gweithio diogel a’r defnydd o gyfarpar diogelu personol (PPE) ar safle adeiladu. 

Yna cyflwynwyd y myfyrwyr i aelodau o dîm Falcon, a arweiniodd y gweithdy gosod brics. Cafodd y grŵp arddangosfa ymarferol o dechnegau gosod brics cywir, gan gynnwys sut i ddefnyddio trywel a morter yn ddiogel ac yn effeithiol. 

Dangosodd y dosbarth eu bod yn frwdfrydig ac yn awyddus i ddechrau’r gweithdy ar unwaith, a datblygodd eu sgiliau yn fuan dan arweiniad tîm Falcon. Roedd y dysgwyr yn ymgysylltu’n gadarnhaol trwy gydol y sesiwn, a gwelwyd hwy’n meithrin hyder ac yn dangos cynnydd trawiadol mewn cyfnod byr. 

Dangosodd dau o’r myfyrwyr allu a brwdfrydedd eithriadol. Dywedodd tîm Falcon y byddent wedi bod yn ymgeiswyr cryf am rolau ar safle pe baent wedi bod o oed gweithio. Yn hytrach, cawsant eu hannog i ystyried prentisiaethau gosod brics, cyrsiau coleg sy’n gysylltiedig ag adeiladu, a chyfleoedd ar gyfer gyrfa yn y diwydiant yn y dyfodol sy’n briodol i’w hoedran a’u cyfnod ym maes addysg. 

Rhoddodd yr ymweliad brofiad dysgu ymarferol gwerthfawr, gan helpu dysgwyr i gael gwell dealltwriaeth o adeiladu, datblygu sgiliau ymarferol, ac archwilio llwybrau gyrfaol posibl yn y sector.